- English
 
Hafan Beth sydd wrth wraidd y gwaharddiad? Beth mae y gwaharddiad yn ei olygu i chi Cefnogi'r gwaharddiad Newyddion diweddaraf
 
Mae amser mwg ail-law ar ben

Yr hyn mae angen i chi ei wybod

Mae Deddf Iechyd 2006 yn datganoli pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau ar wahardd smygu mewn mannau cyhoeddus caeedig yng Nghymru. Daeth y gyfraith newydd i rym ar 2 Ebrill 2007. Pleidleisiodd Aelodau’r Cynulliad o blaid y rheoliadau ar 30 Ionawr 2007.

Mae’r wefan hon yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am y gwaharddiad a sut y bydd yn effeithio arnoch chi.

 
 

Beth sydd wrth wraidd y gwaharddiad?

Yn sgil canfyddiadau’r ymchwil sylweddol a wnaed ar beryglon mwg ail-law i iechyd, penderfynwyd gwahardd smygu mewn mannau cyhoeddus caeedig ym mhob un o bedair gwlad y DU. I gael gwybod mwy, darllenwch yr ymchwil.

Prif ddogfennau:

I ddarllen dogfennau ar ffurf PDF, bydd angen Adobe Acrobat Reader.

Llwyddiannau

Clwb Golff Aberdyfi, Aberdyfi, Gwynedd

Clwb Golff Aberdyfi …yn mynd amdani Dros y blynyddoedd mae cwrs golff 18 twll Aberdyfi, sy’n dyddio’n ôl dros gan mlynedd, wedi cynnal nifer o gystadleuthau gyda’r mwyaf diweddar yn cynnwys Gêmau Rhyngwladol Merched Gwledydd Prydain. Mae’r cwrs hefyd wedi cynnal Pencampwriaethau Cymru ar sawl achlysur. Mae’r clwb yn rhoi croeso cynnes i aelodau ac ymwelwyr fel ei gilydd, a hynny ar y cwrs yn ogystal ag yn y clwb, sydd wedi bod yn ddi-fwg ers deuddeng mis bellach. ...

Newyddion diweddaraf

No smoking sign Mae data ar gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ddi-fwg yn cael ei gasglu'n barhaus gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'r wefan hon yn dangos y data diweddaraf ar gydymffurfio, a hefyd wybodaeth allweddol ar gorfodi'r gwaharddiad ar smygu. Cewch wybod sut y caiff y ddeddfwriaeth ddi-fwg ei gorfodi yng Nghymru, a sut y mae'n bosib cwyno am achosion o dorri'r ddeddf.
Cewch hefyd gyngor ar roi'r gorau i smygu.

Edrychwch ar y data diweddaraf ar gydymffurfio

Beth sydd wrth wraidd y gwaharddiad? Darllenwch yr astudiaeth achos lawn Edrychwch ar y data diweddaraf ar gydymffurfio